Sut ydw i’n cofrestru ar gyfer Fy Iechyd Ar-lein?
Fy Iechyd Ar-lein yw enw’r gwasanaeth ar-lein y mae eich meddygfa’n ei ddefnyddio. Mae’n caniatáu i chi drefnu apwyntiadau, gwneud cais am bresgripsiynau a diweddaru agweddau ar eich data demograffig sydd gan eich meddygfa.
Cyn y gallwch ddefnyddio’r holl wasanaethau ar-lein a gynigir gan eich meddygfa, rhaid i chi:
- Casglu eich llythyr cofrestru - Gwnewch gais a chasglu llythyr cofrestru oddi wrth eich meddygfa.
- Cofrestru ar-lein - Gallwch greu eich proffil defnyddiwr ar wefan Fy Iechyd Ar-lein er mwyn i chi allu mewngofnodi.
I barhau i gofrestru fel defnyddiwr Fy Iechyd Ar-lein newydd a defnyddio’r wefan:
- O’ch porwr rhyngrwyd, ewch i www.fyiechydarlein-inps2.cymru.nhs.uk.
-
Ar y sgrin Mewngofnodi, dewiswch Cofrestru cyfrif newydd:
- Ar y sgrin Ydych chi wedi derbyn llythyr cofrestru gan eich practis?, dewiswch Ie:
- Rhowch y Rhif Adnabod Practis sydd ar eich llythyr cofrestru.
- Rhowch Rhif Adnabod y Cyfrif a’r Allwedd Gyswllt o adran Cofrestriad Cenedlaethol y llythyr cofrestru:
- Llenwch yr adran Manylion personol fel a ganlyn:
- Enw defnyddiwr- Bydd angen i chi greu enw defnyddiwr unigryw (o leiaf 3 nod) – Dyma’r enw y byddwch yn ei ddefnyddio i fewngofnodi i Fy Iechyd Ar-lein.Sylwer – Yr unig symbolau a ganiateir yma yw dotiau a llinellau, felly ni chewch ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost ar hyn o bryd.
- Cyfrinair - Teipiwch gyfrinair newydd. Rhaid iddo gynnwys o leiaf 8 nod, ac o leiaf un nod o dri o’r pedwar math canlynol o nodau:
- Priflythyren
- Llythyren fach
- Rhif
- Symbol
- Cadarnhau'ch cyfrinair - Teipiwch eich cyfrinair newydd eto i’w gadarnhau.
- Enw defnyddiwr- Bydd angen i chi greu enw defnyddiwr unigryw (o leiaf 3 nod) – Dyma’r enw y byddwch yn ei ddefnyddio i fewngofnodi i Fy Iechyd Ar-lein.
- Cwblhewch y sgrin Manylion Manylion gyda’r manylion canlynol:
- Enw cyntaf
- Cyfenw
- E-bost - Rhowch eich cyfeiriad e-bost (y cyfeiriad e-bost sydd wedi’i gofnodi yn eich meddygfa).
- Cadarnhau’ch cyfeiriad e-bost - Teipiwch eich cyfeiriad e-bost eto i’w gadarnhau.Sylwer - Pan fyddwch yn cofrestru i ddefnyddio Fy Iechyd Ar-lein, rydym yn argymell yn gryf na ddylech ddefnyddio cyfeiriad e-bost a rennir, gan fod negeseuon e-bost yn cadarnhau apwyntiadau a phresgripsiynau a archebir yn cael eu hanfon at y cyfeiriad e-bost a roddir. Ar ôl cofrestru, ni fyddwch yn gallu newid eich enw defnyddiwr.
- Dyddiad geni
- Darllenwch y Telerau ac Amodau a’r Polisi Preifatrwydd, a thiciwch y blwch i gadarnhau eich bod chi’n derbyn yr amodau hyn.
-
Ticiwch I’m not a robot i gadarnhau:
- Cliciwch Cofrestru i greu eich cyfrif Fy Iechyd Ar-lein.Sylwer – Gallwch ddewis Ailosod i glirio unrhyw fanylion a ychwanegwyd, a dechrau eto, os oes angen.
- Mae'r neges dilysu e-bost yn ymddangos.
- Bydd angen i chi gau’r sgrin Fy Iechyd Ar-lein a mewngofnodi i’r cyfrif e-bost ar gyfer y cyfeiriad e-bost rydych wedi’i roi.
- Dewch o hyd i neges cadarnhau cyfeiriad e-bost Fy Iechyd Ar-lein a chliciwch ar y ddolen.
Rydych chi wedi cofrestru gyda Fy Iechyd Ar-lein nawr. Gallwch fewngofnodi a defnyddio’r holl wasanaethau ar-lein y mae eich meddygfa wedi’u galluogi.